Math | ynys ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Lachlan Macquarie ![]() |
Poblogaeth | 20 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+10:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Awstralia ![]() |
Arwynebedd | 128 km² ![]() |
Uwch y môr | 260 metr ![]() |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel ![]() |
Cyfesurynnau | 54.63°S 158.86°E ![]() |
Hyd | 34 cilometr ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd, listed on the Australian National Heritage List ![]() |
Manylion | |
Ynys yn ne-orllewin y Cefnfor Tawel, tua hanner ffordd rhwng Seland Newydd a'r Antarctig yw Ynys Macquarie. Mae'n cael ei llywodraethu fel rhan o Tasmania, Awstralia, ers 1880. Mae'n Warchodfa Talaith Tasmania ers 1978 a daeth yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1997.
Darganfuwyd yr ynys anghyfannedd ar 11 Gorffennaf 1810 gan Frederick Hasselborough, hawliodd Ynys Macquarie i Brydain a'i hatodi i wladfa De Cymru Newydd yn yr un flwyddyn. Fe'i henwyd ar ôl Lachlan Macquarie, Rhaglaw De Cymru Newydd o 1810 hyd 1821.[1]
Trwy gydol y flwyddyn, mae'r ynys yn gyforiog o fywyd gwyllt. Yma y mae dyfroedd llawn maetholion Cefnfor y De yn cwrdd â dyfroedd gogleddol cynhesach, gan ffurfio mannau bwydo cyfoethog a gwneud y lle yn hafan i bengwiniaid, morloi ac adar y môr fyw a bridio.[2]