Arwyddair | Whithersoever you throw it, it will stand |
---|---|
Math | Tiriogaethau dibynnol y Goron, gwladwriaeth |
Prifddinas | Douglas |
Poblogaeth | 83,314 |
Sefydlwyd |
|
Anthem | Arrane Ashoonagh Vannin |
Pennaeth llywodraeth | Howard Quayle |
Nawddsant | Maughold |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Manaweg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | British Islands, cenhedloedd Celtaidd, Gogledd Ewrop |
Gwlad | Ynys Manaw |
Arwynebedd | 572 km² |
Cyfesurynnau | 54.235°N 4.525°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Isle of Man Government |
Corff deddfwriaethol | Tynwald |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arglwydd Manaw |
Pennaeth y wladwriaeth | Charles III |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of the Isle of Man |
Pennaeth y Llywodraeth | Howard Quayle |
Arian | Manx pound |
Cyfartaledd plant | 1.65 |
Gwlad Geltaidd ac ynys fwyaf Môr Iwerddon yw Ynys Manaw (Manaweg: Ellan Vannin) a chanddi statws tiriogaeth ddibynnol y Goron. Mae iddi arwynebedd o 572 km² (221 milltir sgwâr) a phoblogaeth o 84,497 (yn 2011).[1] Bu farw Ned Maddrell, siaradwr cynhenid olaf y Fanaweg, yn 1974, ond mae'r iaith wedi cael ychydig o adfywiad yn ddiweddar. Yn ôl cyfrifiad 2011 mae 1,823 yn gallu siarad, darllen neu ysgrifennu'r iaith.[1]
Mae gan yr ynys hunanlywodraeth yn ddibynnol ar y Goron Brydeinig. Senedd yr ynys yw'r Tynwald, a sefydlwyd yn 979. Douglas yw'r brifddinas. Snaefell yw'r mynydd uchaf a'r unig fynydd go iawn, er bod sawl bryn ar yr ynys hefyd.