Arwyddair | Advance Australia Fair |
---|---|
Math | external territory of Australia, endid tiriogaethol gweinyddol, ynys |
Enwyd ar ôl | Nadolig |
Prifddinas | Flying Fish Cove |
Poblogaeth | 1,692 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Advance Australia Fair |
Cylchfa amser | UTC+07:00, Indian/Christmas |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Indian Ocean islands |
Sir | Awstralia |
Gwlad | Ynys y Nadolig |
Arwynebedd | 135 km² |
Uwch y môr | 234 metr |
Gerllaw | Cefnfor India |
Cyfesurynnau | 10.49°S 105.6275°E |
Arian | Doler Awstralia |
Tiriogaeth fechan yn ne-ddwyrain Cefnfor India sy'n perthyn i Awstralia yw Ynys y Nadolig (Saesneg: Christmas Island). Mae'n gorwedd tua 2600 cilometr (1600 milltir) i'r gogledd-orllewin o ddinas Perth, Gorllewin Awstralia, 500 cilometr (300 milltir) i'r de o Jakarta, Indonesia, a 975 km i'r gogledd-ddwyrain o'r Ynysoedd Cocos (Ynysoedd Keeling). Er ei bod yng Nghefnfor India mae'n cael ei chyfrif fel rhan o Oceania oherwydd ei lleoliad daearegol.
Mae tua 1,600 o bobl yn byw ar Ynys y Nadolig, yn bennaf ar ben ogleddol yr ynys, mewn sawl "pentref" bychan: Flying Fish Cove (neu Kampong), Silver City, Poon Saan a Drumsite.
Mae gan yr ynys dirwedd unigryw sy'n ei gwneud o ddiddordeb mawr i wyddonwyr a naturiaethwyr oherwydd y nifer fawr o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion brodorol a geir yno. Fel fauna a flora Ynysoedd Galapagos, maent wedi esblygu ar wahân heb fawr ymyrraeth gan bobl.
Er bod mwyngloddio ar yr ynys ers degawdau mae 65% o'i 135 km sgwar (52 milltir sgwar) yn barc cenedlaethol a cheir sawl coedwig law hynafol a heb ei halogi gan weithgareddau dynol.