Grŵp o ynysoedd ym Môr y Caribî sy'n perthyn i Deyrnas yr Iseldiroedd yw'r Ynysoedd ABC. Caiff y grŵp yma o ynysoedd, sy'n rhan o'r Antilles Lleiaf, ei enw oherwydd ei fod yn cynnwys ynysoedd Arwba, Bonaire a Curaçao.
Saif yr ynysoedd ychydig i'r gogledd o arfordir Feneswela.