![]() | |
Math | grŵp o ynysoedd, plwyf sifil yn yr Alban ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 153 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Lochaber ![]() |
Sir | Cyngor yr Ucheldir, Swydd Inverness, Lochaber ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 15,586 ha ![]() |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd ![]() |
Cyfesurynnau | 56.981282°N 6.314995°W ![]() |
![]() | |
Ynysoedd sy'n rhan o Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw'r Ynysoedd Bach (Gaeleg: Na h-Eileanan Beaga, Saesneg Small Isles).
Saif y grŵp yma o ynysoedd i'r de o ynys An t-Eilean Sgitheanach (Skye) ac i'r gogledd o ynys Muile. Maent yn rhan o Lochaber yn ardal cyngor Ucheldir.
Ceir pedair ynys o faint gweddol, Rùm, y fwyaf o'r ynysoedd gydag arwynebedd o 105 km2, Eigg, Muck a Canna. Ymysg yr ynysoedd llai mae Sanday, Ynys y Ceffylau, Hyskeir, Garbh Sgeir, Humla, Eilean Chathastail, Dubh Sgeir ac Eagamol.
Ceir cysylltiad fferi a Mallaig ar y tir mawr.