Enghraifft o: | hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ![]() |
---|---|
Math | hawliau dynol ![]() |
Rhan o | cyfraith ryngwladol ![]() |
Mae'r hawl i addysg wedi'i chydnabod fel hawl ddynol mewn nifer o gonfensiynau rhyngwladol, gan gynnwys y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol. Mae'r Cyfamod hwn yn cydnabod hawl i addysg gynradd orfodol am ddim i bawb, rhwymedigaeth i ddatblygu addysg uwchradd sy'n hygyrch i bawb, am ddim yn ogystal â rhwymedigaeth i ddatblygu mynediad teg i addysg uwch, trwy gyflwyno addysg uwch am ddim yn raddol. Heddiw, mae bron i 75 miliwn o blant ledled y byd yn cael eu hatal rhag mynd i'r ysgol bob dydd.[1] Yn 2015, roedd 164 o wledydd wedi arwyddo'r Cyfamod.[2]
Mae'r hawl i addysg hefyd yn cynnwys cyfrifoldeb i ddarparu addysg sylfaenol i oedolion nad ydyn nhw wedi cwblhau addysg ar lefel ysgol a choleg. Yn ychwanegol at y darpariaethau mynediad hyn i addysg, mae'r hawl i addysg yn rhwymo'r myfyrwyr i osgoi gwahaniaethu (discrimination) ar bob lefel o'r system addysg, i osod isafswm o safon ac i wella ansawdd yr addysg.