Enghraifft o: | agwedd o hanes |
---|---|
Math | Hanes Cymru, hanes canoloesol |
Gwladwriaeth | Tywysogaeth Cymru, Teyrnas Gwynedd, Teyrnas Deheubarth, Teyrnas Powys, Teyrnas Dyfed |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
HWB | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Mae'r Oesoedd Canol yng Nghymru yn gyfnod sy'n ymestyn o tua 600 hyd at 1485.
Ymadawiad y Rhufeiniaid o Brydain sy'n nodi dechreuad yr oesoedd canol yng Nghymru. Rhannwyd tiroedd y Cymry yn deyrnasoedd bach, ac am gannoedd o flynyddoedd bu'r teyrnasoedd hyn yn ymladd yn erbyn goresgynwyr ac yn erbyn ei gilydd er mwyn sefydlu awdurdod dros ardal mor eang â phosibl o Gymru.
Y cyntaf i deyrnasu dros ran helaeth o Gymru oedd Rhodri Mawr, a oedd yn wreiddiol yn frenin Teyrnas Gwynedd, ac a ddaeth yn frenin Powys a Cheredigion hefyd. Pan fu farw, rhannwyd ei deyrnas rhwng ei feibion, ond llwyddodd ei ŵyr, Hywel Dda, i ffurfio teyrnas y Deheubarth drwy uno teyrnasoedd llai'r de-orllewin, ac erbyn 942 roedd yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru. Yn draddodiadol, cysylltir ef â ffurfio Cyfraith Hywel drwy alw cyfarfod yn Hendy-gwyn ar Daf. Pan fu farw yn 950 llwyddodd ei feibion i ddal eu gafael ar y Deheubarth, ond adfeddiannwyd Gwynedd gan y frenhinllin draddodiadol.
Yn 1066, gydag ymosodiad y Normaniaid ar Loegr ar y gorwel, gwelwyd tywysogion y Deheubarth a Gwynedd yn amlygu eu hunain fel arweinyddion y frwydr hon rhwng diwedd y 11g hyd at ddiwedd y 13g.
Roedd yn wlad lle'r oedd y mwyafrif helaeth o'r bobl yn siarad un iaith yn unig, sef Cymraeg, ac roedd trefn arbennig i bwysigrwydd gwahanol grwpiau o bobl yn y gymdeithas. Roedd crefydd yn bwysig iawn ym mywydau pobl ac roedd rôl allweddol gan yr abatai a'r mynachlogydd ym mywydau bob dydd pobl.
Roedd lladd Llywelyn ap Gruffydd a’i frawd Dafydd ap Gruffudd yn 1282/3 yn dynodi cyfnod newydd yn hanes Cymru, gyda’r Goncwest Edwardaidd yn nodi mai awdurdod coron Lloegr oedd bellach yn teyrnasu yng Nghymru. Bu gweddill y 13g hyd at ddiwedd y 15g yn un ansefydlog a helbulus yn hanes Cymru. Ar ddechrau’r 15g amlygodd Owain Glyndŵr ei hun fel ffigwr amlwg ym mrwydr Cymru i ennill annibyniaeth eto wedi Concwest Edward. Bu nifer o wrthryfeloedd eraill yn ystod y cyfnod hwn o dan arweinyddion eraill a ddangosai’r ymdeimlad cenedlaethol oedd ar gynnydd yng Nghymru wedi’r Goncwest. Yn 1485 enillodd Harri Tudur, oedd â’i wreiddiau yn nheulu’r Tuduriaid, Ynys Môn, Frwydr Maes Bosworth, gan gychwyn ar gyfnod mwy sefydlog yn hanes Prydain. Gyda’r fuddugoliaeth honno cychwynnodd cyfnod y Tuduriaid.