Daeth iaith Gaeleg yr Alban i Ganada gan ymfudwyr o Ucheldiroedd yr Alban ac Ynysoedd Heledd, a chafodd ei defnyddio'n iaith gymunedol yng Nghanada'r Iwerydd am ryw dwy ganrif. Yn yr 21g, mae'r iaith ar ei chryfaf yng ngogledd Nova Scotia, ar Ynys Cape Breton yn enwedig, a cheir siaradwyr hefyd yn Ynys Prince Edward, yn ne-orllewin ynys Newfoundland, ac yn ardal Miramichi, New Brunswick. Yn hanesyddol cafodd ei siarad hefyd gan gymunedau yn Ontario a Québec.
Siaredir yr iaith Aeleg yn nwyrain Canada ers i'r Gaeliaid ddechrau ymfudo i'r ardal yng nghanol y 18g. Yn sgil alltudiaeth yr Acadiaid i Louisiana a Gogledd a De Carolina, ymfudodd niferoedd mawr o Albanwyr, Saeson, Gwyddelod, ac Almaenwyr i ddwyrain Canada, gan drawsnewid demograffeg ieithyddol y wlad. Yn 1867, yr Aeleg oedd yr iaith a chanddi'r nifer trydydd mwyaf o siaradwyr (200,000) yn yr holl wlad, ar ôl Saesneg a Ffrangeg.[1] Yn niwedd y 19g, traean o boblogaeth Nova Scotia oedd yn medru'r iaith, a fe'i siaredir yn gyffredin yn nwyrain Ynys Prince Edward.
Yn yr 21g mae ymdrechion i achub yr iaith Aeleg yng Nghanada wedi tyfu, yn bennaf yn Nova Scotia. Er hynny, mae sefyllfa'r iaith yn fregus, hyd yn oed yn ei chadarnleoedd ar Ynys Cape Breton.[2] Amcangyfrifir bod rhyw 2000 o siaradwyr Gaeleg yng Nghanada'r Iwerydd, yn bennaf yn Nova Scotia,[3][4][5] a mwy na 7000 o siaradwyr yr ieithoedd Gaeleg yng Nghanada gyfan.[6][7] Yn ôl cyfrifiad 2011, mae dros 300 o drigolion Nova Scotia ac Ynys Prince Edward yn ystyried Gaeleg yr Alban neu'r Wyddeleg yn famiaith.[8]
|deadurl=
ignored (help)