Yr wyddor Georgeg

Yr wyddor Georgeg
Enghraifft o:set, set, notation, gwyddor, script family Edit this on Wikidata
Mathsgript naturiol, system ysgrifennu, treftadaeth Edit this on Wikidata
IaithIeithoedd Cartfeleg, Georgeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu5 g Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAsomtavruli, Nuskhuri, Mkhedruli, Mtavruli, Khutsuri, modern Georgian script Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Arwydd ffordd yn yr wyddor Georgeg a'r Lladin. Defnyddir Mtawruli fel prif lythrennau ar yr arwydd traffig yma
Testun mewn sgriptiau Georgeg Mkhedruli ac Asomtavruli ar yr un dudalen. Mae'r pennawd yn y sgript Mtawruli hefyd i'w weld ar y brig

Yr wyddor Georgeg (Georgeg: ქართული დამწერლობა?, kartuli damts'erloba; yn llythrennol - "sgriptiau Georgaidd") yw'r tair system ysgrifennu a ddefnyddir ar hyn o bryd i ysgrifennu'r iaith Georgeg fel eu traddodiad llenyddol fel rhai o'r ieithoedd Cartfeleg eraill, Mingreleg, Svan, a Laz, ac yn achlysurol ieithoedd eraill y Cawcasws megis Oseteg ac Abchaseg yn ystod y 1940au.[1] Orgraff ffonemig sydd i'r iaith Georgeg ac mae'r wyddor gyfredol yn cynnwys 33 llythyren; roedd ganddi fwy yn wreiddiol, ond mae rhai wedi darfod (gweler y blychau tywyll yn y tabl).[2][3]

Daw'r gair "wyddor" (Georgeg: ანბანი, anbani) o gyfuno enwau dwy lythyren gyntaf tair gwyddor y Georgeg; mae'r rhain yn wahanol iawn i'w gilydd, ond yn rhannu'r un drefn yn nhrefn yr wyddor.[4] Ysgrifennir Georgeg o'r chwith i'r dde ac yn swyddogol ni ddefnyddir priflythrennau.[5]

Mkhedruli - sgript brenhinol sifil Teyrnas Georgia, a ddefnyddir ar y pryd yn bennaf ar gyfer siarteri brenhinol - yw'r sgript safonol heddiw ar gyfer ieithoedd Georgaidd modern ac ieithoedd Cartfelaidd eraill, tra bod Asomtavruli a Nuskhuri yn cael eu defnyddio dim ond gan Eglwys Uniongred Georgia, yn nhestunau seremonïau crefyddol ac mewn eiconograffeg.

  1. "Georgian alphabet (Mkhedruli)". Omniglot. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2023.
  2. "7, Unique Language and Script". Visit Georgia. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2011.
  3. "Georgian". Ancient Scipt.com. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2011.
  4. "Georgian alphabet". Visit Georgia. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2011.
  5. "Georgian Alphabet". Ocf.berkeley.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Ebrill 2012. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2011.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne