Enghraifft o: | Abjad, unicase alphabet, sgript naturiol, Wyddor sgript Hebraeg |
---|---|
Iaith | Hebraeg, Iddew-Almaeneg, Iddew-Sbaeneg |
Dechrau/Sefydlu | 2 g CC |
Yn cynnwys | י, lamed, מ |
Rhagflaenydd | Paleo-Hebrew alphabet |
Enw brodorol | אָלֶף־בֵּית עִבְרִי |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae 22 llythyren yr wyddor Hebraeg (אָלֶף-בֵּית עִבְרִי alephbet ’ivri) yn cael eu defnyddio i ysgrifennu yr iaith Hebraeg. Mae ffurf wahanol ar bump o'r llythrennau hyn pan ddônt ar ddiwedd gair, o'r enw ffurf derfynol. Mae ffurfiau'r llythrennau wedi eu haddasu ychydig i ysgrifennu sawl iaith yr Iddewon alltud, ac Iddew-Almaeneg, Ladino a'r ieithoedd Iddew-Arabeg ymhlith y rhai enwocaf. Caiff Hebraeg ei hysgrifennu o'r dde i'r chwith.
Abjad yw'r wyddor Hebraeg, sef llythrennau am ddim ond y gytseiniaid sydd. Er hynny dyfeisiwyd modd i ddangos y llafariaid nes ymlaen yn hanes yr iaith trwy ddefnyddio pwyntiau bach o'r enw niqqud. Yn Hebraeg Rabineg, gall y pedair cytsain אהוי gael eu defnyddio i gynrychioli llafariaid hefyd.
Mae nifer y llythrennau yn yr wyddor Hebraeg, eu trefn, eu henwau a'u seiniau bron yn union yr un peth â rhai'r wyddor Aramaeg, oherwydd i'r Hebreaid a'r Arameaid addasu'r wyddor Phoeniceg at eu dibenion eu hunain ar ddiwedd yr ail fileniwm CC.
Yn ôl ysgolheigion heddiw, datblygodd yr ysgrifen fodern a oedd yn cael ei defnyddio i ysgrifennu Hebraeg yn ystod y 3 CC o'r ysgrifen Aramaeg. Roedd hon yn cael ei defnyddio gan Iddewon er mwyn ysgrifennu Hebraeg ers y 6ed ganrif CC, a dim ond am enw Duw roedden nhw'n defnyddio'r hen ysgrifen. Cyn hynny, roedd pobl yn ysgrifennu Hebraeg yn yr wyddor Hen Hebraeg a oedd yn datblygu o'r ysgrifen Phoeniceg yn ystod y 10fed ganrif CC. Hyd yn oed heddiw mae'r Samariaid yn dal i ddefnyddio amrywiad ar yr ysgrifen hon mewn gweithiau crefyddol.