Yr Wyddor Roeg (Groeg: Ελληνικό αλφάβητο) yw grŵp o 24 llythyren a ddefnyddir i ysgrifennu'r iaith Roeg ers yr 8fed ganrif CC. Yn oddrychol, hi yw'r system ysgrifennu gyntaf sydd yn defnyddio symbol arwahanol ar gyfer pob llafariad a chytsain. Hithau hefyd yw'r wyddor hynaf sydd o hyd yn cael ei defnyddio'n rheolaidd. Defnyddiwyd y llythrennau hefyd ar gyfer rhfiau Groegaidd o'r 2 CC ymlaen.
Daw'r wyddor Roeg o'r wyddor Phoeniceg. Datblygodd nifer o wyddorau o'r wyddor hon gan gynnwys nifer yn y Gorllewin Canol yn ogystal â'r wyddor Ladin sef yr wyddor a ddefnyddir fwyaf yn y byd. Defnyddir yr wyddor mewn gwyddoniaeth a mathemateg fodern.