Math | ysbyty |
---|---|
Ardal weinyddol | Aylesbury |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | National Health Service |
Lleoliad | Aylesbury |
Sir | Swydd Buckingham (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.79837°N 0.80158°W |
Ysbyty mawr a leolir ar y ffin rhwng Stoke Mandeville ac Aylesbury yn Swydd Buckingham, De-ddwyrain Lloegr, yw Ysbyty Stoke Mandeville. Mae'n un o dri ysbyty a weinyddir gan Wasanaeth Ymddiriodolaeth Iechyd Ysbytai Swydd Buckingham. Dyma un o'r ysbytai mwyaf yn Ewrop ac mae'n darparu'r ward anafiadau sbinol mwyaf yn y byd.
Sefydlwyd yr ysbyty ym 1832, pan drawyd pentref Stoke Mandeville gan epidemig colera a ymestynodd ar draws Lloegr yn y 1930au cynnar. Sefydlwyd yr ysbyty cholera ar y ffin rhwng Stoke Mandeville ac Aylesbury gan ddefnyddio arian a gyfranwyd gan y ddau blwyf, ond adeiladwyd y tu allan i'r anheddiadau eu hunain gan fod cholera yn andros o heintus.