![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 409, 436 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 5,613.44 ha ![]() |
Yn ffinio gyda | Pontarfynach ![]() |
Cyfesurynnau | 52.3268°N 3.8627°W ![]() |
Cod SYG | W04000404 ![]() |
Cod OS | SN731714 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref gwledig a chymuned yng Ngheredigion yw Ysbyty Ystwyth.[1][2] Daw'r enw o'r gair Cymraeg Canol ysbyty "hosbis, llety i deithwyr" ac mae'n cyfeirio at un o 'ysbytai' Marchogion yr Ysbyty a sefydlwyd yno yn yr Oesoedd Canol.
Saif y pentref bychan ar y lôn B4343 tua 12 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth rhwng Pontrhydygroes a Pontarfynach i'r gogledd a Pontrhydfendigaid i'r de. Rhed afon Ystwyth heibio i ogledd y pentref.
Mae Ysgol Gynradd Ysbyty Ystwyth oedd yn arfer gwasanaethu cymunedau Ysbyty Ystwyth a'r cylch wedi cau.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[4]