Ysgol Gyfun Aberaeron | |
---|---|
Sefydlwyd | 1896 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Dwyieithog, Cymraeg a Saesneg |
Pennaeth | Mr Owain Jones |
Dirprwy Bennaeth | Mrs Anwen Davies |
Lleoliad | Stryd y Fro, Aberaeron, Ceredigion, Cymru, SA46 0DT |
AALl | Cyngor Sir Ceredigion |
Staff | 45 llawn amser, 1.5 rhan amser[1] |
Disgyblion | 689[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Lliwiau | Glas tywyll Coch tywyll |
Gwefan | ygaberaeron.org.uk |
Ysgol gyfun a leolir yn Aberaeron, Ceredigion yw Ysgol Gyfun Aberaeron. Mae'n ysgol dwyieithog naturiol, gyda 30% o'r disgyblion yn dod o gartrefi ble mae'r Gymraeg yn brif iaith, a 50% yn siarad Cymraeg i safon iaith gyntaf.[1]
Sefydlwyd Aberayron County Intermediate School ar gyfer bechgyn a merched, ym 1896 yn dilyn Deddf Canolradd Cymreig 1889. Adeiladwyd ym 1897 ar gost o £2,098. Charles Jones Hughes BA, oedd prifathro cyntaf yr ysgol.[2]