Ysgol Maes Garmon | |
---|---|
Arwyddair | Ni lwyddir heb lafur |
Sefydlwyd | 1961 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Dwyieithog, Cymraeg a Saesneg |
Pennaeth | Mrs Bronwen Hughes |
Lleoliad | Stryd Conwy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, Cymru, CH7 1JB |
Disgyblion | tua 550 |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Gwefan | ysgolmaesgarmon.siryfflint.sch.uk |
Ysgol uwchradd gyfun ddwyieithog yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint yw Ysgol Maes Garmon, ar gyfer plant 11 i 18 oed. Sefydlwyd yr ysgol yn 1961, gyda 109 o ddisgyblion a 7 o staff. Elwyn Evans oedd y prifathro cyntaf. Erbyn hyn mae tua 550 o ddisgyblion yn yr ysgol.[1] Mae'r ysgol yn rhannu cyfleusterau megis canolfan hamdden a theatr gydag Ysgol Alun gerllaw.[2]
Cymraeg yw prif iaith yr ysgol ac er mai ysgol ddwyieithog yw hi, mae hi'n croesawu disgyblion sydd ddim yn medru'r Gymraeg yn ogystal, gan gynnal rhaglen drochi i ddysgu'r iaith i'r disgyblion sydd wedi mynychu'r ysgol gynradd Saesneg.[3] Dyma'r unig ysgol ddwyieithog yn Sir y Fflint.
Arwyddair yr ysgol yw: Ni lwyddir heb lafur.