Math | ysgol Gymraeg ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | y Bala ![]() |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.859754°N 3.674783°W ![]() |
Cod post | LL23 7UB ![]() |
![]() | |
Ysgol gynradd Gymraeg yn Llanuwchllyn ger Y Bala ydy Ysgol O. M. Edwards. Sefydlwyd yr ysgol bresennol yn 1954, ac roedd 42 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2006.[1] Fe aiff disgyblion yr ysgol ymlaen i Ysgol y Berwyn pan yn 11 oed. Daw 80% o'r disgyblion o gartefi lle mae'r Cymraeg yn brif iaith.[2]
Enwyd yr ysgol ar ôl Owen Morgan Edwards, dyn a anwyd yn Llanuwchlyn ac a aeth ymlaen i fod yn Aelod Seneddol ac yn Arolygwr Ysgolion cyntaf Cymru. Ei fab ef a sefydlodd Urdd Gobaith Cymru.
Prifathro cyntaf yr ysgol oedd Ifor Owen, a oedd hefyd yn sylfaenydd ac yn arlunydd y comic Cymraeg cyntaf, sef Hwyl!.[3]