Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 310, 287 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 4,230.86 ha |
Cyfesurynnau | 52.53437°N 3.91866°W |
Cod SYG | W04000405 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Cymuned yng ngogledd Ceredigion yw Ysgubor-y-coed. Saif o gwmpas glan ddeheuol Afon Dyfi, yn y rhan fwyaf gogleddol o Geredigion. Llifa Afon Einion trwy'r gymuned.
Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Ffwrnais, Glandyfi ac Eglwys-fach. Ceir gweddillion castell mwnt a beili Domen Las (Castell Aberdyfi) ar lan Afon Dyfi, castell o godwyd gan Rhys ap Gruffudd yn y 12g. Yn y gymuned hefyd mae Gwarchodfa adar Ynys-hir, sy'n eiddo i'r RSPB. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 293.