![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 4,663, 4,817 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 977.23 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.7652°N 3.7881°W ![]() |
Cod SYG | W04000629 ![]() |
Cod OS | SN767089 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jeremy Miles (Llafur) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
![]() | |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Ystalyfera.[1][2] Fe'i lleolir ger cyd-lif yr afonydd Twrch a Thawe, tua 18 milltir i'r gogledd o Abertawe. Datblygodd Ystalyfera yn ystod y 18g, gyda gwaith haern pwysig a sawl pwll glo wedi eu lleoli yno. Fodd bynnag, gyda dirywiad diwydiant gwaithgynhyrchu, bu sawl newid cymdeithasol a demograffaidd yn Ystalyfera, sydd bellach ymlith y 100 cymuned mwyaf amddifad yng Nghymru yn ôl Mynegrif Aml-amddifadedd Cymru. [angen ffynhonnell]
Mae gan Ystalyfera nifer o gapeli a thafarndai adnabyddus, gan gynnwys y Wern Fawr, sydd wedi ennill gwobrau am y cwrw a fregir ar y safle. Mae dylanwad Buddy Holly yn gryf ar enwau'r cwrw hyn. Ar ochr ddeheuol y pentref saif ardal Y Graig Arw a Phant-teg, sy'n cysylltu Ystalyfera â Godre'r-graig.
Yn y gorffennol, roedd ardal Ystalyfera yn enwog am lysenwau lliwgar y trigolion.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]