Enghraifft o: | anime and manga genre |
---|---|
Math | anime and manga, lesbian fiction, ffuglen ramantus, lesbian literature |
Y gwrthwyneb | yaoi |
Prif bwnc | lesbiaeth |
Enw brodorol | 百合 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Genre o gylchgronau a ffilmiau am gariad rhwng merched mewn anime manga ydy Yuri (百合, "Lili"), neu cariad merch (ガールズラブ gāruzu rabu),[3].[4] Mae Yuri yn canolbwyntio ar yr ochr rhywiol a'r ochr ramantus o'r berthynas. Weithiau mae'n nhw'n defnyddio'r term shōjo-ai yn y Gorllewin am yr ochr ramantus.[5]
Mae gwreiddiau yuri yn mynd yn ôl i ffuglen lesbiaidd ar ddechrau'r 20g: i lyfrau fel Yaneura no Nishojo gan Nobuko Yoshiya. Ond yn y 1970au y dechreuodd manga lesbiaidd go iawn, gan artistiaid fel Ryoko Yamagishi a Riyoko Ikeda.[1] Daeth ffasiwn newydd a ffres yn y 1990au yn ogystal â stwff dōjinshi, a derbyniawyd y genre yn gyffredinol gan y gymdeithas yn Japan a gwledydd eraill hefyd.[6] Yn 2003, y cyhoeddwyd y cylchgrawn manga yuri go-iawn, am y tro cyntaf: Yuri Shimai. Ar ei ôl, pan ddaeth Yuri Shimai i ben, cyhoeddwyd Comic Yuri Hime.[7]
Ar gyfer merched y cafodd ei greu'n wreiddiol, ond erbyn hyn ceir math shōnen seinen, hefyd, ar gyfer dynion. Mae'r manga yuri ar gyfer dynion yn cynnwys Kannazuki no Miko a Strawberry Panic!, a gweithiau allan o'r Comic Yuri Hime' a lansiwyd yn 2007.[8]