Yuriko, y Dywysoges Mikasa | |
---|---|
Ganwyd | 4 Mehefin 1923 Takagichō, Tokyo City |
Bu farw | 15 Tachwedd 2024 o heneidd-dra St. Luke's International Hospital |
Dinasyddiaeth | Japan |
Alma mater | |
Galwedigaeth | tywysoges |
Tad | Masanari Takagi |
Priod | Takahito, Prince Mikasa |
Plant | Yasuko Konoe, Prince Tomohito of Mikasa, Yoshihito of Katsura, Masako Sen, Norihito, Prince Takamado |
Llinach | Llys Ymerodrol Japan |
Gwobr/au | Urdd y Goron Werthfawr, Dosbarth 1af, Order of the Pleiades |
Roedd Yuriko, y Dywysoges Mikasa (崇仁親王妃百合子 Takahito Shinnōhi Yuriko), 4 Mehefin 1923 – 15 Tachwedd 2024), yn aelod o Dŷ Ymerodrol Japan ac yn wraig i Takahito, mab yr Ymerawdwr Taishō a'r Ymerodres Teimei. Ar adeg ei marwolaeth, hi oedd yr aelod hynaf o'r teulu imperialaidd, a'r aelod byw olaf a aned yn oes Taishō.
Ei henw cyn dod yn dywysoges oedd Yuriko Takagi (高木百合子 Takagi Yuriko). Cafodd ei geni yng nghartref ei theulu yn Tokyo, yn ail ferch yr Is-iarll Masanari Takagi (1894-1948) a'i wraig Kuniko Irie (1901-1988).[1] Roedd ei thad yn aelod o deulu Takagi, a oedd gynt yn arglwyddi parth ffiwdal fechan Tan'nan. Roedd ei mam yn un o ddisgynyddion tylwyth pendefigaidd Yanagihara, ac yn ail gyfnither i'r Ymerawdwr Shōwa.[2]
Bu farw yn yr Ysbyty Rhyngwladol St Luc yn Tokyo, yn 101 oed.[3]