Enghraifft o: | band ![]() |
---|---|
Label recordio | Ankst ![]() |
Dod i'r brig | 2007 ![]() |
Genre | seicadelia newydd ![]() |
Band cerddoriaeth trydanol Gymreig o Gaerfyrddin oedd Zabrinski. Roedd y band, a ymddangosodd yn gyntaf yn 2000, yn cyfuno seicadelia a cherddoriaeth electronig.[1] Enillodd Executive Decision y wobr am sengl y flwyddyn yng nghylchgrawn enwog Record Collector yn 2003.
Cafodd y band ei enwi oherwydd camsillafiad ffilm o 1970, sef Zabriskie Point.
Eu halbwm cyntaf oedd Screen Memories, a hawliodd sylw'r beirniaid yn syth. Mae'r record yn gyfuniad o bop seicadelig law yn llaw ag elfennau o'r llawr ddawns a'r byd electro-arbrofol.
Roedd Zabrinksi yn rhan o genhedlaeth newydd a ysbrydolwyd gan grwpiau fel Super Furry Animals, Gorky's Zygotic Mynci a Topper. Ymhlith eu halbyms mwya poblogaidd y mae: Yeti (2001), Koala Ko-ordination (2002) a Ill Gotten Game (2005) ac fe'u disgrifiwyd gan y BBC fel albymau 'llawn dyfeisgarwch, melodi a chynhyrchu beiddgar'. Dros y blynyddoedd, cymharwyd y grŵp i grwpiau ac unigolion fel Flaming Lips, Aphex Twin, Primal Scream a'r Beach Boys.[angen ffynhonnell]
Er iddynt deithio drwy wledydd Prydain gyda'r Super Furry Animals a recordio sesiynau ar gyfer Huw Stephens a John Peel ar Radio 1, daeth y grŵp i ben yn 2007.