![]() | |
![]() | |
Math | bwrdeistref Sbaen ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 23,370 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Xabier Txurruka ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Cardano al Campo, Pontarlier, El Hagounia ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Basgeg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Azpeitia (ardal farnwrol ), Urola Kostako Udal Elkartea/Mancomunidad Urola Kosta, UEMA - Udalerri Euskaldunen Mankumunitatea ![]() |
Sir | Urola Kosta ![]() |
Gwlad | ![]() ![]() |
Arwynebedd | 14.8 km² ![]() |
Uwch y môr | 4 ±1 metr ![]() |
Gerllaw | Môr Cantabria ![]() |
Yn ffinio gyda | Aizarnazabal, Aia, Getaria ![]() |
Cyfesurynnau | 43.2863°N 2.1748°W ![]() |
Cod post | 20800 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Zarautz ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Xabier Txurruka ![]() |
![]() | |
Mae Zarautz (Sbaeneg: Zarauz) yn dref arfordirol wedi'i leoli yn Gipuzkoa, Euskadi, Sbaen. Mae'n ffinio ag Aia i'r dwyrain a'r de a Getaria i'r gorllewin. Mae ganddi bedair amgaead sy'n cyfyngu'r bwrdeistrefi uchod: Alkortiaga, Ekano, Sola, ac Arbestain. Mae Zarautz tua 15km i'r gorllewin o Donostia. Yn 2014 roedd gan Zarautz boblogaeth o 22,890, gyda'r boblogaeth yn chwyddo i tua 60,000 yn yr haf diolch i dwristiaid. Mae Zarautz yn dref lle mae 74% o'r boblogaeth yn siarad Basgeg (Euskara) ac mae 11% arall yn ei deall.[1]
Lleolir Palas Narros, ger traeth Zarautz, traeth 2.8km o hyd, lle treuliodd y Frenhines Isabella II a Fabiola o Wlad Belg eu gwyliau haf ar un adeg. Mae'r traeth yn adnabyddus am fod yr hiraf yn Euskadi (Gwlad y Basg) ac yn un o'r hiraf yn y Gordo Cantabriaidd (yn ddaearyddol y Gordo Cantabraidd yw'r ardal eang ogleddol, penrhyn Iberia sy'n ymestyn o Galisia yn ddwyreiniol ar hyd yr arfordir i Euskadi ac ar hyd Mynyddoedd y Pyreneau i Gatalonia ar Fôr y Canoldir.)
Maer Zarautz ers 2015 yw Xabier Txurruka (Plaid Genedlaetholgar Gwlad y Basg).