![]() | |
![]() | |
Math | Taleithiau'r Iseldiroedd ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | môr ![]() |
Prifddinas | Middelburg ![]() |
Poblogaeth | 386,707 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | Zeeuws volkslied ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Han Polman ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Yr Iseldiroedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 2,934 ±1 km², 1,787 ±1 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Zuid-Holland, Noord-Brabant, Dwyrain Fflandrys, Gorllewin Fflandrys, Antwerp ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5667°N 3.75°E ![]() |
NL-ZE ![]() | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | King's or Queen's Commissioner ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Han Polman ![]() |
![]() | |
Talaith yn ne-orllewin yr Iseldiroedd yw Zeeland neu Seland.[1] Ffurfir y dalaith o sawl penrhyn, oedd gynt yn ynysoedd, yn y delta a ffurfir gan ganghennau Afon Rhein ac afonydd Maas a Schelde. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 380,186. Prifddinas y dalaith yw Middelburg, tra mae Vlissingen a Terneuzen yn borthladdoedd pwysig.
Mae rhan o'r diriogaeth yn is na lefel y môr, a dioddefodd y dalaith lifogydd difrifol yn 1953. Erbyn hyn, mae twristiaeth yn ddiwydiant pwysig yma. Enwyd Seland Newydd ar ôl Zeeland.