Zine el-Abidine Ben Ali | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 3 Medi 1936 ![]() Hammam Sousse ![]() |
Bu farw | 19 Medi 2019 ![]() Jeddah ![]() |
Man preswyl | Jeddah, Tiwnisia ![]() |
Dinasyddiaeth | French protectorate of Tunisia, Tiwnisia ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd ![]() |
Swydd | Arlywydd Tiwnisia, cadeirydd y Sefydliad Undod Affricanaidd, Prif Weinidog Tiwnisia, Minister of Interior ![]() |
Plaid Wleidyddol | Socialist Destourian Party, Constitutional Democratic Rally, Annibynnwr ![]() |
Priod | Leïla Ben Ali, Naïma Ben Ali ![]() |
Plant | Nesrine Ben Ali ![]() |
Perthnasau | Slim Chiboub, K2Rhym ![]() |
Gwobr/au | Coler Urdd Isabella y Catholig, Collar of the Order of the Star of Romania, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Uwch groes Urdd Infante Dom Henri, Grand Cross of the Order of Good Hope, National Maltese Order of Merit, Uwch Groes Urdd Sant-Siarl ![]() |
Zine el-Abidine Ben Ali (Arabeg: زين العابدين بن علي), (ganed 3 Medi, 1936, yn Hammam Sousse; m. 19 Medi 2019 yn Jeddah, Sawdi Arabia), oedd arlywydd Tiwnisia o 7 Tachwedd 1987 hyd 14 Ionawr 2011. Bu'n arweinydd yr Rassemblement Constitutionnel Démocratique (RCD) hefyd. Mae'n briod â Leila Trabelsi.
Yn frodor o Hammam Sousse, ger Sousse lle gweithiai ei dad yn y porth, cafodd ei fagu mewn ardal dosbarth gweithiol yn y dref honno. Cymerodd ran yn y gwrthryfel yn erbyn y Ffrancod yn 1956 ond heb fod yn un o'r arweinwyr amlycaf. Yn y chwedegau cynnar aeth i'r Unol Daleithiau i dderbyn hyfforddiant milwrol. Cafodd sawl swydd ym myddin Tiwnisia a'r gwasanaethau diogelwch cyn dod yn weinidog yn Swyddfa Cartref y wlad, yn llywodraeth y prif weinidog Rachid Sfar, ac yna daeth yn brif weinidog ei hun. Ben Ali oedd yn gyfrifol am orfodi Habib Bourguiba, Arlywydd cyntaf Tiwnisia ac arwr y rhyfel dros annibyniaeth, i "ymddeol am resymau meddygol." Coup menyg melfed oedd hyn ym marn rhai.
Y tu allan i'r wlad a rhai cylchoedd diplomyddol (e.e. UDA) y farn gyffredinol oedd bod Ben Ali yn unben,[1] gan fod y régime Tiwnisiaidd yn unbleidiol i bob pwrpas[2] sy'n cyfyngu rhyddid barn.[3]