![]() Zoroastriad modern yn addoli mewn teml tân yn Yazd, Iran. | |
Enghraifft o: | crefydd ![]() |
---|---|
Math | dualistic cosmology ![]() |
Rhan o | Iranian religions ![]() |
Sylfaenydd | Zarathustra ![]() |
Gwladwriaeth | India, Iran, Cyrdistan Iracaidd, Unol Daleithiau America, Wsbecistan, Canada, Tajicistan ![]() |
![]() |
Zoroastriaeth neu Mazdayasna yw'r grefydd a sefydlwyd gan y proffwyd Zarathustra, tua dechrau'r 6g CC, ym Mhersia (Iran). Mae'n un o grefyddau hyna'r byd sy'n parhau i gael ei harfer heddiw.[1][2]
Mae'n grefydd ddeuolaidd gyn-Islamaidd sy'n dal i oroesi mewn rhannau o Iran a rhai o'r gwledydd cyfagos; mae Parsïaid India yn dilyn ffurf arbennig ar Zoroastriaeth a elwir Parsïaeth.
Mae Zoroastriaeth yn cydnabod dwy egwyddor sylfaenol yn y bydysawd, sef Ahura Mazda, un o dduwiau hynafol Iran sy'n cynrychioli'r Goleuni a Daioni, a'i wrthwyneb Ahriman. Gornest y ddau rym elfennol hyn yw bywyd dyn a'r bydysawd. Nid yw'r ornest yn gyfartal gan fod Daioni yn rhwym o ennill yn y diwedd. Pan ddigwydd hynny bydd Ahura Mazda yn atgyfodi y meirw a chreu paradwys newydd ar y ddaear; un o arwyddion y dyddiau hynny yw dychweliad Zarathustra i'r byd fel math o feseia.
Yn ôl dysgeidiaeth Zoroastriaeth mae gan ddyn ewyllys rhydd anghyfyngiedig a diderfyn sy'n gwneud pob dyn a dynes yn gyfrifol am eu tynged eu hun yn y byd hwn a'r byd sydd i ddod. Dethlir ac annogir bywyd a chreu ond credir bod marwolaeth yn difwyno - dyna'r rheswm dros rhoi cyrff y meirw allan yn yr awyr agored i gael eu bwyta gan fwlturiaid ar y Tyrrau Tawelwch enwog.
Mae ganddi gosmoleg ddeuol o dda a drwg ac eschatoleg sy'n rhagfynegi concwest y drwg yn y pen draw gan y da.[3] Mae Zoroastrianiaeth yn dyrchafu dwyfoldeb doeth a charedig sydd heb ei greu, o'r enw Ahura Mazda (llythr. Arglwydd Doeth) fel ei dduwdod goruchaf.[4] Un o nodweddion hanesyddol unigryw Zoroastrianiaeth, yw ei undduwiaeth, [5][6][7][8][9], meseianiaeth, cred mewn barnu person ar ôl marwolaeth, nefoedd ac uffern, ac ewyllys rydd. Credir i'r grefydd hon ddylanwadu'n gryf ar systemau crefyddol ac athronyddol eraill, gan gynnwys Cristnogaeth, Gnosticiaeth, athroniaeth Roegaidd, Islam,[10] a'r Ffydd Baháʼí.